Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu 1:                                             Mae’r Llywodraeth yn cydnabod nad yw adran 170(4)(b)(vii) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn cael ei dyfynnu. Y rheoliad yn yr offeryn sy’n dibynnu ar adran 170(4)(b)(vii) yw rheoliad 2(d)(ix). Mae’r rheoliad yn cychwyn adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 o ran Cymru ac, er ei bod yn rhan o brosiect gweithredu ehangach, nid yw’r ddarpariaeth benodol hon wedi ei rhyng-gysylltu ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau.

Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod hepgor yr is-baragraff yn newid effaith yr offeryn, sy’n parhau i fod intra vires. Mae’r Llywodraeth yn dibynnu ar yr egwyddorion a nodir yn Inco Europe Ltd v First Choice Distribution [2000] 1 WLR 586 i gefnogi ei barn. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud y Rheoliadau hyn ac mae ganddynt y pŵer i gychwyn adran 53 o ran Cymru. Mae’n amlwg o ddarpariaethau gweithredol yr O.S. mai’r bwriad oedd i adran 170(4)(b)(vii) gael ei phennu yn y rhagymadrodd.

Fodd bynnag, byddwn yn cychwyn adran 53 yn llawn fel rhan o gam 2 y broses o weithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022, sydd ar ddod.